Ffion Denman - Original Eco-Dyed Textile (2)
Eco-Dyed Textile work from artist Ffion Denman, shown in our exhibition 'New Voices: Higgins 25' (05.04.25-03.05.25).
"I am new to eco printing, and I am still finding the rhythm—learning a whole new language, deciphering which botanicals whisper yes to the process and which turn away, which fabrics embrace the dye like an old friend and which resist, holding their own against the invitation to change. It’s an ongoing conversation—one of patient listening and humble experimentation.
These prints were born through the alchemy of time and touch, water and metal. The plants first took their rest in a bath of iron and water, while the natural fabrics—cotton, linen, and silk—bathed in alum mordant and water, steeping for 24 hours. Once softened and receptive, I laid the fabrics onto a flat surface, arranging the gathered botanicals with care, allowing their forms to dictate the composition."
//
"Mae’r dechneg o argraffu eco yn un newydd imi, ac rydw i’n dal i ddod o hyd i’r rhythm - o ddysgu iaith hollol newydd, dysgu pa blanhigion sy’n canu mewn cytgord â’r broses a pha rai sydd yn fud, pa ddefnyddiau sydd yn cofleidio’r llifynnau fel hen gyfaill a pha rai sy’n eu gwrthsefyll, yn gyndyn o newid. Mae’r sgwrs yn un barhaus, o wrando’n amyneddgar ac arbrofi â meddwl agored.
Daeth y printiau yma i fodolaeth drwy ryngweithiad amser a chyffyrddiad, dŵr a metel. I gychwyn, rhoddais y planhigion i orffwys mewn baddon o ddŵr a haearn, tra aeth y ffabrigau naturiol - cotwm, lliain a sidan - i socian am 24 awr mewn cymysgedd o alwm brathliw a dŵr. Ar ôl i’r defnyddiau feddalu, fe osodais i nhw ar arwyneb gwastad, gan drefnu y planhigion yn ofalus a gadael iddynt symud i’w cyfansoddiad naturiol."
Works purchased from this exhibition will be available for collection / shipping at the conclusion of the show from 03.05.25 onwards.